Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2017
Amser:
08.59 -
14.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4406
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Rhianon Passmore AC |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Ruth Friel, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Shan Kennedy, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Denise Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Angela Hughes, Holl Cymru gwrando a dysgu o adborth grŵp Rosemary Agnew, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban Marie Anderson, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon Disa Young, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Jacky Jones, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Bethan Jenkins AC, Jenny Rathbone AC, Gareth Bennett AC a Mick Antoniw AC.
1.3 Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Janet Finch Saunders AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
· Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Materion Cyfreithiol a Llywodraethu
· Chris Vinestock, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau a Phrif Swyddog Gweithredu
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ruth Friel, Pennaeth Profiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
· Shan Kennedy, Pennaeth Ymchwil ac Iawndal, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
· Denise Williams, Uwch-reolwr Adrodd Allanol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
· Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chadeirydd y grŵp Gwrando a Dysgu o Adborth Cymru Gyfan
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rosemary Agnew, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban
· Marie Anderson, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon
4.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon i ddarparu'r eitemau a ganlyn:
· Copi o'r papur a gyhoeddwyd ynghylch yr arbedion a wnaed mewn perthynas ag adnoddau ymchwilio o ganlyniad i'r drefn o gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;
· Copi o'r adroddiad, “Mapping the administrative justice landscape”, a gyhoeddwyd yn 2014;
· Y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â chynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun.
4.3 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion a bennwyd gan y Senedd sy'n sail i'r gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Disa Young, Pennaeth Materion Allanol, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru
· Jacky Jones, Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru a Chyfarwyddwr Gweithredol BMI Werndale
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cymorth i Fenywod Bangor a’r Cylch mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Adam Price AC mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cysylltiad â gwneud i'r economi weithio i bobl sydd ag incwm isel.
6.5.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch y gwaith craffu ar yr adroddiad blynyddol.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.